Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Y Ddewines gyntaf (Cyfanswm: 31)

 
(1, 1) 4 Cyfwrdd eto, bryd y daw
(1, 1) 5 Mewn taranau, mellt, neu law?
 
(1, 1) 9 Ymha lannerch?
 
(1, 1) 12 Dyfod 'r wyf, y Goetgath lwyd!
 
(1, 3) 60 Pa le y buost ti, chwaer?
 
(1, 3) 63 Gwraig morwr oedd, a'i glin yn llawn o gnau,
(1, 3) 64 A chnôi, a chnôi, gofynnais "Dyro beth;"
(1, 3) 65 "Dos ymaith, wrach!" medd hithau 'r faeden lwth.
(1, 3) 66 I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr:
(1, 3) 67 Ond yno hwyliaf gyda hoel,
(1, 3) 68 Ac yno, fel llygoden foel,
(1, 3) 69 Mi wnaf, mi wnaf, ac mi wnaf.
 
(1, 3) 71 'Rwyt yn dda.
 
(1, 3) 73 Gennyf fi mae'r llall fy hun,
(1, 3) 74 Chwythant ar y pyrth i gyd,
(1, 3) 75 Gwyddant bob rhyw barth o'r byd
(1, 3) 76 Ar y cwmpas sydd.
(1, 3) 77 Crined fydd â'r gweiryn rhos,
(1, 3) 78 Ni ddaw cysgu ddydd na nos
(1, 3) 79 Ar ei amrant i roi saib;
(1, 3) 80 Dyn a roir fydd dan ei raib
(1, 3) 81 Blin wythnosau, naw waith naw,
(1, 3) 82 Nychu bydd yn brudd mewn braw;
(1, 3) 83 Er nad aiff ei long i lawr,
(1, 3) 84 Hyrddir gan y dymestl fawr,
(1, 3) 85 Gwelwch beth sy gennyf fi.
 
(1, 3) 87 Bawd y gŵr y boddwyd ef
(1, 3) 88 Wrth ddychwelyd tua thref.
 
(1, 3) 115 Henffych!
 
(1, 3) 118 Llai na Macbeth, a mwy.
 
(1, 3) 121 Banquo a Macbeth, henffych.